Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
22 Tachwedd 2023
Amser y
cyfarfod: 13.30
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/13561
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
1 Cwestiynau i Weinidog yr Economi
Dechreuodd yr eitem am 13.30
Gofynnwyd cwestiynau 1-7 a chwestiynau 9-10. Tynnwyd cwestiwn 8 yn ôl. Atebwyd cwestiynau 2 a 6 gan y Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau, Chwaraeon a Thwristiaeth. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog ar ôl cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Dechreuodd yr eitem am 14.20
Gofynnwyd cwestiynau 1-3, 5-6 ac 8-11. Tynnwyd cwestiynau 4 a 7 yn ôl. Atebwyd cwestiwn 10 gan y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol. Gwahoddodd y Llywydd lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i’r Gweinidog a’r Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol ar ôl cwestiwn 2.
3 Datganiadau 90 Eiliad
Dechreuodd yr eitem am 15.15
Gwnaeth Jayne Bryant ddatganiad am - Mis Ymwybyddiaeth Canser y Pancreas (Tachwedd).
Gwnaeth Vikki Howells ddatganiad am - Cofio Alf Sherwood, cyn-gapten tîm pêl-droed Cymru, a fyddai wedi bod yn 100 oed eleni (13 Tachwedd).
Gwnaeth Alun Davies ddatganiad am - Teyrnged i'r Arglwydd Beddoe o Gilgeti, arglwydd y meinciau croes a chyn-gadeirydd y WDA, a fu farw'r wythnos ddiwethaf.
4 Dadl ar ddeiseb P-06-1356: Cyflwyno mesurau diogelwch cynhwysfawr ar gyffordd 'Mynegbost' yr A477
Dechreuodd yr eitem am 15.20
NDM8408 Jack Sargeant (Alun a Glannau Dyfrdwy)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi’r ddeiseb ‘P-06-1356 Cyflwyno mesurau diogelwch cynhwysfawr ar gyffordd 'Mynegbost' yr A477’ a gasglodd 10,310 o lofnodion
Derbyniwyd y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
5 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig - Technoleg ddigidol a deallusrwydd artiffisial yn y GIG
Dechreuodd yr eitem am 15.51
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8410 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn dathlu datblygiad a defnydd o dechnolegau arloesol gan wasanaethau iechyd ledled y DU.
2. Yn croesawu'r Uwchgynhadledd Diogelwch Deallusrwydd Artiffisial, yr uwchgynhadledd fyd-eang gyntaf erioed ar ddeallusrwydd artiffisial, a gynhaliwyd ar 1 a 2 Tachwedd 2023.
3. Yn gresynu:
a) nad yw pob meddygfa yn defnyddio ap GIG Cymru;
b) nad yw e-bresgripsiynu wedi'i gyflwyno'n llawn yn GIG Cymru; a
c) bod y seilwaith technolegol sy'n sail i GIG Cymru yn creu rhwystrau i ymarfer clinigol.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i wneud yr hyn a ganlyn:
a) cyflwyno ap y GIG ac e-bresgripsiynu ar frys ar draws GIG Cymru gyfan;
b) cyflymu'r broses o integreiddio technolegau digidol a deallusrwydd artiffisial ar gyfer GIG Cymru; a
c) dechrau ar y broses o gael gwared ar dechnolegau'r GIG sydd wedi dyddio.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
23 |
0 |
24 |
47 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth ar ôl pwynt 2 a rhoi yn ei le:
Yn nodi pwysigrwydd sicrhau bod gweithio’n digwydd ar draws y DU yn dilyn uwchgynhadledd ddiweddar Llywodraeth y DU ar ddiogelwch deallusrwydd artiffisial (AI), er mwyn sicrhau bod safbwyntiau Cymru yn cael eu hadlewyrchu mewn penderfyniadau a chamau gweithredu yn y dyfodol.
Yn nodi pwysigrwydd datblygiad parhaus gwasanaethau digidol a thechnoleg ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol er mwyn sicrhau gofal o ansawdd uchel.
Yn croesawu:
a) bod dros 200 o bractisau meddygon teulu bellach yn defnyddio Ap GIG Cymru;
b) mai’r pwriad yw ei gyflwyno ym mhob practis erbyn diwedd mis Mawrth 2024;
c) bod gwasanaeth presgripsiynau integredig yn dechrau cael ei gyflwyno ledled y wlad, wedi i’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig newydd mewn Gofal Sylfaenol gael ei lansio; a
d) gwaith cydgysylltu’r sector iechyd a gofal cymdeithasol ar dechnolegau newydd a rhai sy'n dod i'r amlwg, megis AI, i helpu i sicrhau eu bod yn cael eu mabwysiadu mewn modd cyfrifol, moesegol, teg a diogel.
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
35 |
0 |
12 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM8410 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn dathlu datblygiad a defnydd o dechnolegau arloesol gan wasanaethau iechyd ledled y DU.
2. Yn croesawu'r Uwchgynhadledd Diogelwch Deallusrwydd Artiffisial, yr uwchgynhadledd fyd-eang gyntaf erioed ar ddeallusrwydd artiffisial, a gynhaliwyd ar 1 a 2 Tachwedd 2023.
3. Yn nodi pwysigrwydd sicrhau bod gweithio’n digwydd ar draws y DU yn dilyn uwchgynhadledd ddiweddar Llywodraeth y DU ar ddiogelwch deallusrwydd artiffisial (AI), er mwyn sicrhau bod safbwyntiau Cymru yn cael eu hadlewyrchu mewn penderfyniadau a chamau gweithredu yn y dyfodol.
4. Yn nodi pwysigrwydd datblygiad parhaus gwasanaethau digidol a thechnoleg ym maes Iechyd a Gofal Cymdeithasol er mwyn sicrhau gofal o ansawdd uchel.
5. Yn croesawu:
a) bod dros 200 o bractisau meddygon teulu bellach yn defnyddio Ap GIG Cymru;
b) mai’r pwriad yw ei gyflwyno ym mhob practis erbyn diwedd mis Mawrth 2024;
c) bod gwasanaeth presgripsiynau integredig yn dechrau cael ei gyflwyno ledled y wlad, wedi i’r Gwasanaeth Presgripsiynau Electronig newydd mewn Gofal Sylfaenol gael ei lansio; a
d) gwaith cydgysylltu’r sector iechyd a gofal cymdeithasol ar dechnolegau newydd a rhai sy'n dod i'r amlwg, megis AI, i helpu i sicrhau eu bod yn cael eu mabwysiadu mewn modd cyfrifol, moesegol, teg a diogel.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
47 |
0 |
0 |
47 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
6 Dadl Plaid Cymru - Y sector rhentu preifat
Dechreuodd yr eitem am 16.42
Gohiriwyd y bleidlais ar y cynnig a’r gwelliannau o dan yr eitem hon tan y Cyfnod Pleidleisio.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig heb ei ddiwygio:
NDM8409 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) y pwysau costau byw parhaus sy'n wynebu rhentwyr;
b) y cynnydd rhent cyfartalog blynyddol yng Nghymru o 13.9 y cant yn 2021-22;
c) y cynnydd rhent cyfartalog pellach yng Nghymru o 6.5 y cant yn 2022-23, gyda Shelter Cymru yn nodi enghreifftiau o renti'n codi 100 y cant;
d) mai rhenti myfyrwyr yw 60 y cant o becyn cynhaliaeth cyfartalog y DU, gyda 32 y cant o fyfyrwyr sy'n astudio yng Nghymru yn methu â thalu eu rhenti.
2. Yn credu na ddylai unrhyw un yng Nghymru gael ei roi mewn perygl o fod yn ddigartref o ganlyniad i chwyddiant uchel a diffyg stoc tai fforddiadwy.
3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithredu ar unwaith i wneud yr hyn a ganlyn yn y sector preifat:
a) rhewi rhenti;
b) cyflwyno mesurau i wahardd troi allan y gaeaf hwn.
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
11 |
0 |
36 |
47 |
Gwrthodwyd y cynnig heb ei ddiwygio.
Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:
Gwelliant 1 Lesley Griffiths (Wrecsam)
Dileu popeth a rhoi yn ei le:
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi’r pwysau parhaus o ran costau byw y mae pobl sy’n rhentu yn eu hwynebu.
2. Yn croesawu’r ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu, fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru, i gyhoeddi Papur Gwyn yn amlinellu cynigion ynghylch posibilrwydd sefydlu system o renti teg a hefyd ddulliau newydd o sicrhau bod cartrefi’n fforddiadwy i bobl ar incwm isel.
3. Yn croesawu’r camau pendant, uchelgeisiol a radical ar gyfer diwygio yn y dyfodol a amlinellir yn y Papur Gwyn ar Roi Diwedd ar Ddigartrefedd a ddatblygwyd fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru.
4. Yn credu na ddylai unrhyw un yng Nghymru wynebu'r posibilrwydd o ddigartrefedd yn sgil budd-daliadau annigonol sy’n gysylltiedig â thai.
5. Yn cydnabod mai’r dull unigol mwyaf ar gyfer mynd i’r afael â phroblemau fforddiadwyedd yn y sector rhentu preifat yw cyfraddau’r Lwfans Tai Lleol, ac yn galw ar Lywodraeth y DU i godi’r cyfraddau er mwyn adlewyrchu gwir gost rhent.
Papur Gwyn ar roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru
Cynhaliwyd pleidlais ar welliant 1:
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
35 |
0 |
12 |
47 |
Derbyniwyd gwelliant 1.
Gan fod gwelliant 1 wedi ei dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
Cynhaliwyd pleidlais ar y cynnig fel y’i diwygiwyd:
NDM8409 Heledd Fychan (Canol De Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi’r pwysau parhaus o ran costau byw y mae pobl sy’n rhentu yn eu hwynebu.
2. Yn croesawu’r ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu, fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru, i gyhoeddi Papur Gwyn yn amlinellu cynigion ynghylch posibilrwydd sefydlu system o renti teg a hefyd ddulliau newydd o sicrhau bod cartrefi’n fforddiadwy i bobl ar incwm isel.
3. Yn croesawu’r camau pendant, uchelgeisiol a radical ar gyfer diwygio yn y dyfodol a amlinellir yn y Papur Gwyn ar Roi Diwedd ar Ddigartrefedd a ddatblygwyd fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio gyda Phlaid Cymru.
4. Yn credu na ddylai unrhyw un yng Nghymru wynebu'r posibilrwydd o ddigartrefedd yn sgil budd-daliadau annigonol sy’n gysylltiedig â thai.
5. Yn cydnabod mai’r dull unigol mwyaf ar gyfer mynd i’r afael â phroblemau fforddiadwyedd yn y sector rhentu preifat yw cyfraddau’r Lwfans Tai Lleol, ac yn galw ar Lywodraeth y DU i godi’r cyfraddau er mwyn adlewyrchu gwir gost rhent.
Papur Gwyn ar roi diwedd ar ddigartrefedd yng Nghymru
O blaid |
Ymatal |
Yn erbyn |
Cyfanswm |
35 |
0 |
12 |
47 |
Derbyniwyd y cynnig fel y’i diwygiwyd.
7 Cwestiynau Amserol
Dechreuodd yr eitem am 17.39
Atebwyd gan y Gweinidog Cyllid a Gwasanaethau Cymdeithasol
Peter Fox (Mynwy): Pa asesiad y mae’r Gweinidog wedi ei wneud o'r effaith y bydd datganiad yr hydref Llywodraeth y DU yn ei chael ar Gymru?
8 Cyfnod Pleidleisio
Dechreuodd yr eitem am 17.51
9 Dadl Fer
Dechreuodd yr eitem am 17.56
NDM8406 Samuel Kurtz (Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro)
Diogelu anifeiliaid sy'n cael eu cam-drin - rhoi pwerau statudol i'r RSPCA
Daeth y cyfarfod i ben am 18.11
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 28 Tachwedd 2023